Croeso i Gwefan Hogia'r Ddwylan
Does dim amheuaeth bod Hogia’r Ddwylan yn dwyn yr enw mwyaf
rhamantus o holl gorau meibion Cymru, sy’n adlewyrchu swyn yr
ardal sy’n gynefin iddo. Daw’r aelodau o’r pentrefi
sy’n ffinio ar ddwy lan Afon Menai, ar gyrion Eryri, un o’r
ardaloedd hyfrytaf yng Nghymru. Mae pencadlys ymarfer
a gweinyddu’r
côr ym Mhorthaethwy, yn llythrennol yng nghysgod Pont Menai,
campwaith pensaerniol Thomas Telford. Mae côr Hogia’r
Ddwylan hefyd, ers ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl, wedi bod yn pontio
cymunedau a chynulleidfaoedd, drwy Gymru, Prydain
ac Ewrop.
< ddarllenwch fwy >


