Ilid Anne Jones - CYFARWYDDWR CERDD

Cafodd Ilid ei geni a’i magu yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle a dechreuodd ar ei gyrfa gerddorol fel cyfeilydd côr cymysg lleol a hithau ond yn 12 mlwydd oed.
< ddarllenwch fwy >

Rhian Roberts - CYFEILYDD

Ganwyd Rhian yn Y Bontnewydd, ger Caernarfon, a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd gydag anrhydedd...
< ddarllenwch fwy >

Amdan y Côr

Mae gan y côr 40 o aelodau, o dan arweiniad meistrolgar Ilid Anne Jones (gw. isod) ac, er bod nifer fawr ohonyn nhw’n gantorion profiadol dros ben, mae’n bolisi gan y côr i ddenu aelodau ifainc, polisi a fu’n llwyddiannus iawn. Yr hyn sy’n bennaf gyfrifol am y llwyddiant hwnnw yw’r dewis amrywiol a chyffrous o gerddoriaeth a geir yn repertoire y côr, yn ogystal â’r llwyddiant mynych a gafodd mewn cystadleuthau a gwyliau cenedlaethol (fel yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Wyl Gerdd Dant) ac ar lefel ryngwladol yn ogystal, mewn gwledydd fel Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Almaen, Belg a Llydaw. Mae aelodau’r côr  hefyd wrth eu boddau yn diddanu cynulleidfaoedd ymhell ac agos mewn cyngherddau ac achlysuron cymdeithasol amrywiol. Yn wir un o’r profiadau mwyaf cofiadwy a gawson nhw yn y blynyddoedd diwethaf oedd diddanu’r dorf yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, cyn y gêm rygbi ddiweddaraf rhwng Cymru a’r Crysau Duon.

Mae’r côr wedi cynhyrchu chwech o recordiau/cryno ddisgiau dros y blynyddoedd, gyda’r diweddara ohonyn nhw, Mae’r Cyfan yn Gân, yn ymddangos y llynedd, i ddathlu ei ddeugain mlwyddiant.